Integreiddio data

Mae cyfuno data neu integreiddio data yn golygu cyfuno data a leolir mewn gwahanol lefydd, ac yn rhoi trosolwg 'unedig' i'r defnyddiwr.[1] Mae'r broses o integreiddio (neu 'gyfuno') data'n ddefnyddiol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, gan gynnwys y defnydd masnachol (megis pan fydd angen i ddau gwmni tebyg uno eu cronfeydd data) a gwyddonol - gan gyfuno canlyniadau ymchwil o wahanol labordai, er enghraifft. Cynyddodd y defnydd o gyfuno data yn ystod y 2000au a'r 2010au oherwydd anferthedd y data (hynny yw, 'data mawr') a'r angen i rannu data sy'n bodoli'n barod.[2] Daeth yn ganolbwynt gwaith damcaniaethol helaeth mewn prifysgolion a chyrff eraill, ac yn 2019 roedd llawer o broblemau heb eu datrys. Mae cyfuno data yn annog cydweithio rhwng defnyddwyr mewnol y cwmnioedd a'r sefydliadau, yn ogystal â defnyddwyr allanol.

  1. Maurizio Lenzerini (2002). "Data Integration: A Theoretical Perspective" (PDF). PODS 2002. tt. 233–246.
  2. Frederick Lane (2006). "IDC: World Created 161 Billion Gigs of Data in 2006".

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search